Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y_Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
1 Gorffennaf 2020
Amser y
cyfarfod: 11.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6380
------
Dechreuodd yr eitem am 11.00.
Croesawodd y Llywydd yr Aelodau i’r Cyfarfod Llawn rhithwir a
dywedodd fod y Cyfarfod Llawn hwn, a gynhelir drwy gynhadledd fideo
yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â
thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru
2006.
Dywedodd y Llywydd, ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, y bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys - nodwyd pob un ohonynt ar yr agenda.
Dywedodd y Llywydd fod y cyhoedd, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, wedi cael eu gwahardd rhag mynychu'r Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond byddai'r cyfarfod yn cael ei ddarlledu'n fyw a byddai cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
Cafodd yr Aelodau eu hatgoffa gan y Llywydd hefyd y byddai Rheolau Sefydlog yn ymwneud â threfniadau a threfn busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod hwn.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 11.01
Gofynnwyd y 6 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 12.05
3 Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd - (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel "swyddog cyfreithiol")
Dechreuodd yr eitem am 12.15
Gofynnwyd y 7 cwestiwn.
4 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd
Dechreuodd yr eitem am 12.44
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf.
Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau
i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Am 13.28, cafodd y cyfarfod ei atal dros dro tan
14.15.
5 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 i 5 gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
6 Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd
Dechreuodd yr eitem am 15.02.
Gofynnwyd y 5 cwestiwn cyntaf. Ni ofynnwyd cwestiwn 6 oherwydd problemau technegol.
Cafwyd egwyl am resymau technegol am
15.22.
7 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.23
Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn dilyn y cyhoeddiad am golli swyddi yn Airbus?
8 Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Argyfwng Hinsawdd
Dechreuodd yr eitem am 15.39
9 Dadl: Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol ar Reoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020
Dechreuodd yr eitem am 16.10
NDM7340 Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod y Senedd yn cytuno, yn unol â Rheol Sefydlog 30A.10, i'r Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau Deddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (Diwygiadau Canlyniadol) 2020, yn unol â'r drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mai 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
10 Dadl Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar effeithiau COVID-19 ar Economi, Seilwaith a Sgiliau Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.15
NDM7341 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiadau Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Effaith COVID-19: Crynodeb o'r canfyddiadau cychwynnol a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2020 ac Effaith COVID-19: Sgiliau – canfyddiadau cynnar a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mehefin 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
11 Dadl Plaid Cymru - Cwricwlwm Newydd Arfaethedig
Dechreuodd yr eitem am 17.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:
a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;
b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac
d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.
3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.
4. Yn cytuno y dylai’r elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys:
a) hanes pobl ddu a phobl o liw; a
b) hanes Cymru.
5. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
9 |
1 |
46 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cytuno y gall y cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag anghyfiawnder o bob ffynhonnell.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
4 |
42 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a
b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
4 |
22 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol
Gwelliant 5 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn yr ysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
40 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu mai'r ffordd orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
1 |
14 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd COVID-19.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
15 |
0 |
41 |
56 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7342 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:
a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;
b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac
d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.
3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.
4. Yn cydnabod bod canllawiau’r Cwricwlwm Newydd i Gymru o ran y Dyniaethau yn “hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru” ac yn “galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.”
5. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:
a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt; a
b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.
6. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
30 |
14 |
12 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
12 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.27
Fel y nodir ar yr Agenda, cynhaliwyd pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.
Enwebodd pob grŵp gwleidyddol un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â rôl weithredol, bydd yr enwebai yn cario'r un nifer o bleidleisiau ag sydd o aelodau'r grŵp hwnnw ynghyd ag unrhyw aelodau eraill o'r llywodraeth. Roedd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.32
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 11.00, Dydd Mercher, 8 Gorffennaf 2020